Y Comisiwn Gofal Iechyd a Chymru
Mae’r Comisiwn a dyletswyddau yng Nghymru yn gwahaniaethu i rai hynny yn Lloegr. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sy’n bodoli o fewn Cynulliad Cymru, sydd yn gyfrifol am arolygiaeth leol ag archwilio Cyrff GIG Cymreig. Mae sector preifat gofal iechyd yn cael ei rheoli gan Arolygiaeth Gofal Safonau dros Gymru.
Mae'r Comisiwn Gofal Iechyd yn gweithio'n agos gyda'r cyrff yma ag eraill, fel y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol a'r Comisiwn Archwilio Cymru (i'w cyfuno o Ebrill 2005 gan greu y Swyddfa Archwilio Cymru), a fydd yn arolygu ag archwilio gofal iechyd yng Nghymru.
Arolygiaeth Gofal lechyd Cymru, Healthcare Inspectorate Wales (opens new window)
Swyddfa Archwilio Cymru, Wales Audit Office (opens new window)
Mae ein gwaith yng Nghymru wedi ei ddisgrifio yn ein cynllun corfforaethol am 2004/08:
- gorffen gweddill ein rhaglen o waith a ddechreuwyd gan y cyn Comisiwn Gwella Iechyd
- ein hadroddiad blynyddol ar gyflwr gofal iechyd, sy'n cwmpasu Lloegr a Chymru
- adolygiad gwelliant (neu thema) cenedlaethol
- sicrhau bod pynciau tros-ffin perthnasol yn cael ei rheoli'n effeithiol
- sicrhau bod nodweddion arbennig Cymru yn system gofal iechyd, yn ogystal â'r iaith Gymraeg, yn cael sylw yn ein polisïau a rhaglen waith
- adolygu ansawdd y data casglwyd gan eraill mewn perthynas a gofal iechyd i'r/dros y GIG
Cynllun strategol 2005-2008 (Strategic plan - Welsh) (pdf 789kb) (opens new window)
Cynllun Iaith Gymraeg
Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’r Comisiwn Gofal Iechyd nawr yn aelod o Gynllun yr Iaith Gymraeg. Cymeradwywyd ein Cynllun gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar Fawrth 29ain, 2007. Mae’n datgan sut y bwriadwn gyflwyno gwasanaethau i’r cyhoedd yn y Gymraeg.
Gellir islwytho'r Cynllun Iaith Gymraeg (fersiwn Gymraeg) yma (pdf 149kb) (opens new window)
Concordat
Ar hyn o bryd rydym yn datblygu rhaglen Gymreig unigryw. Rydym hefyd yn cefnogi y broses o dan arweiniaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu concordat i gyrff sydd yn arolygu ag archwilio gofal iechyd yng Nghymru. Disgwylir i'r hyn fod yn debyg i'r cytundeb yn Lloegr, lle bu ei ddatblygiad a mabwysiadu gael ei arwain gan y Comisiwn Gofal Iechyd.
Concordat rhwng y corfforaethau sydd yn arolygu, rheoli ac yn archwilio lechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (PDF, 450K) (opens new window)
Rhagor o wybodaeth (PDF, 158K) (opens new window)
Asesi berfformiad
Ni fydd bwriad y Comisiwn ar y ffordd o edrych ag asesi berfformiad mudiadau sy'n darparu gofal iechyd yn y GIG yn berthnasol yng Nghymru. Bydd safonau gofal iechyd yng Nghymru yn cael ei osod gan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cynhaliwyd cyfarfod gan y Comisiwn Gofal Iechyd yng Nghaerdydd yn Medi 2004.
Commission meeting September 2004
Most reports on this site are PDF files, to view any PDF file you will need Adobe Acrobat Reader.